Araith y Frenhines 2016

BILAU A FYDDAI'N BERTHNASOL I GYMRU

Bil

Pwrpas

Bil Cymru

Rhoi ar waith yr elfennau hynny yng nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi y mae gofyn cael deddfwriaeth sylfaenol ar eu cyfer, gan ddarparu setliad cryfach, tecach ac eglurach i Gymru.  Mae hyn yn cynnwys cyflwyno model datganoli i Gymru sy’n seiliedig ar gadw pwerau gan ddatganoli pwerau ychwanegol mewn meysydd megis etholiadau, trafnidiaeth ac ynni.

Y Bil Marchnadoedd Gwell

Bydd y Bil  yn agor marchnadoedd, yn hybu cystadleuaeth, yn rhoi mwy o rym a dewis i ddefnyddwyr, ac yn gwneud i reoleiddwyr economaidd weithio'n well;  mae'n cynnwys annog cwsmeriaid i newid darparwyr er mwyn cael gwell bargen, cyflymu'r broses benderfynu ar gyfer ymchwiliadau i gystadleuaeth, a rhoi mwy o rym i awdurdodau gwneud- iawn i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gystadleuol. 

Bil Hawliau

Bydd y Bil yn gwireddu addewid y Llywodraeth yn ein maniffesto i gyflwyno Bil Hawliau a diwygio cyfraith hawliau dynol.

Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Bydd y Bil hwn yn mynd i'r afael â methiant y wladwriaeth ac yn trawsnewid canlyniadau i blant mewn gofal, er mwyn inni roi gobaith am ddyfodol gwell i bob un ohonynt.  Bydd yn cynnwys newidiadau i'r hyn y bydd yn rhaid i'r llysoedd ei ystyried wrth benderfynu ynghylch mabwysiadu, yn cyflwyno system newydd i reoleiddio gweithwyr cymdeithasol drwy sefydlu rheoleiddiwr arbenigol i'r proffesiwn ac yn sefydlu 'Cyfamod newydd i'r Rhai sy'n Gadael Gofal'. 

Bil Gwrth-Eithafiaeth a Diogelu

Mae'r Bil hwn yn rhoi i'r Llywodraeth ac i asiantaethau gorfodi'r gyfraith bwerau newydd i amddiffyn y cyhoedd rhag yr eithafwyr mwyaf peryglus, gan gynnwys cyflwyno trefn sifil newydd i gyfyngu ar weithgareddau eithafol, pwerau i ymyrryd mewn sefyllfaoedd addysg dwys sydd heb eu rheoleiddio, a chau bylchau er mwyn i Ofcom allu parhau i amddiffyn defnyddwyr sy'n gwylio cynnwys teledu o'r tu allan i'r UE drwy gyfrwng ffrydio ar y rhyngrwyd. 

Bil Arian Troseddol

Bydd y Bil hwn yn caniatáu i'r Llywodraeth adfachu rhagor o asedau troseddol drwy ddiwygio'r gyfraith ynghylch arian a enillir yn sgil troseddu, gan gynnwys darpariaethau i gryfhau pwerau gorfodi ac amddiffyn y cyhoedd.

Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)

Bydd y Bil hwn  yn galluogi'r Deyrnas Unedig i gytuno â Chonfensiwn Hague er mwyn Gwarchod Eiddo Diwylliannol os Digwydd Gwrthdaro Arfog, ynghyd â'i ddau brotocol.

Bil yr Economi Ddigidol

Bydd y Bil yn moderneiddio ein hinsawdd ar gyfer menter, gan sicrhau bod Prydain yn parhau ar flaen y gad yn economi fyd-eang yr 21ain ganrif gan gynnwys rhoi hawl gyfreithiol i bob aelwyd gael cysylltiad band eang cyflym a chyfreithiau newydd i helpu darparwyr telathrebu i adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar gyfer band eang cyflymach a gwell rhwydweithiau symudol. Bydd hefyd yn darparu pŵer newydd i Ofcom orchymyn darparwyr gwasanaethau cyfathrebu i ryddhau data er budd defnyddwyr a chystadleuaeth a chamau i gefnogi diwydiannau digidol ac amddiffyn dinasyddion. 

Bil Addysg i Bawb

Bydd y Bil hwn yn gwireddu cam nesaf trawsnewid addysg yn Lloegr.  Mae'n cynnwys cyfreithiau newydd i ehangu rhaglen yr academïau yn yr awdurdodau lleol sy'n perfformio waethaf ac yn darparu diwygiadau sylfaenol er mwyn addysgu plant sydd wedi'u hallgáu.  Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno trefn ansolfedd ar gyfer colegau addysg bellach a chweched dosbarth.  

Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Bydd y Bil yn darparu'r diwygiadau mwyaf a welwyd ar yr ochr gyflenwi’r sector addysg uwch ers chwarter canrif gan gynnwys camau i'w gwneud yn haws agor prifysgolion newydd o safon uchel, diwygio trefniadau cyllido prifysgolion, a sefydlu gofynion newydd i bob prifysgol gyhoeddi gwybodaeth fanwl am ei chyfraddau ymgeisio, yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig a dilyniant. 

Bil Eiddo Deallusol (Bygythiadau heb Gyfiawnhad)

Bydd y Bil hwn yn diwygio’r gyfraith ynghylch bygythiadau heb gyfiawnhad yng nghyswllt achosion patentau, nodau masnach a hawliau dylunio ac yn gwireddu argymhellion diwygio manwl Comisiwn y Gyfraith.

Bil Cynilion Oes

Bydd y Bil hwn yn sefydlu'r cynllun Help i Gynilo a fyddai'n helpu'r rheini sydd ar incwm isel sy'n ceisio cynilo a chreu ISA newydd am Oes, gan roi bonws ar eu cynilion i gynilwyr.

Bil Trafnidiaeth Fodern

Bydd y Bil yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig ar flaen y gad ym maes technoleg ddiogel ar gyfer ffurfiau newydd o drafnidiaeth, gan gynnwys cerbydau sy'n eu rheoli eu hunain, cerbydau trydan, a meysydd gofod. 

Bil Cynllunio a Seilwaith Cymdogaethau

Bydd y Bil hwn yn sicrhau bod gan Brydain y seilwaith sydd ei angen ar fusnesau er mwyn iddynt dyfu.  Mae'r bilau'n cynnwys sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar sail statudol, gan wneud y pryniant gorfodol yn eglurach, yn gyflymach ac yn decach i bawb, gan alluogi preifateiddio'r Gofrestrfa Dir.

Bil y GIG (Ffioedd Ymwelwyr Tramor)

Bydd y Bil hwn yn estyn nifer y gwasanaethau y caiff y GIG godi tâl amdanynt ar ymwelwyr tramor a mudwyr gan sicrhau bod y drefn adennill costau'n effeithiol ac yn effeithlon a bod cost lawn y gofal yn cael ei hadennill a'i rhoi yn ôl i'r GIG.

Y Bil Etholwyr Tramor

Bydd y Bil yn dileu'r terfyn 15 mlynedd cyfredol ar hawliau pleidleisio dinasyddion Prydain dramor yn etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Ewrop, gan gynnwys darpariaethau sy'n berthnasol i etholwyr tramor.

Bil Diwygio'r Carchardai a'r Llysoedd

Bydd y Bil yn cyflwyno'r diwygiadau mwyaf a welwyd i'n carchardai ers oes Victoria, gan sicrhau nad dim ond lle i gosbi yw'r rhain ond hefyd i adsefydlu troseddwyr.  Bydd hefyd yn cynnwys pwerau newydd i Lywodraethwyr Carchardai i ganiatáu lefelau digynsail o reolaeth  dros bob agwedd ar reoli carchardai, bydd yn darparu ar gyfer trawsnewid addysg, iechyd a hyfforddiant o'u cwr er mwyn lleihau aildroseddu, a bydd yn rhoi camau newydd ar waith i asesu perfformiad carchardai.

Bil Pensiynau

Bydd y Bil yn diwygio ymhellach system bensiynau preifat Prydain drwy roi camau amddiffyn hanfodol ar waith i bobl mewn Cronfeydd Cyfun, dileu'r rhwystrau i ddefnyddwyr sy'n dymuno cael gafael ar gynilion eu pensiynau mewn ffordd hyblyg gan ailstrwythuro'r canllawiau ariannol i gwsmeriaid.

Bil Rhoddion Elusennol Bach

Bydd y Bil hwn yn symleiddio Cynllun Rhoddion Bach Cymorth Rhodd, gan ei gwneud yn haws hawlio, a chan alluogi rhagor o elusennau, yn enwedig rhai bach neu rai newydd, i elwa.

 


 

BILAU NAD YDYNT YN BERTHNASOL YNG NGHYMRU

Bil

Pwrpas

Bil Gwasanaethau Bysiau

Bydd y Bil yn cynnig yr opsiwn i ardaloedd awdurdodau cyfun sydd â meiri wedi'u hethol yn uniongyrchol fod yn gyfrifol am gynnal eu gwasanaethau bysiau lleol.

Bil Twf a Swyddi Lleol

Bydd y Bil hwn yn rhoi rheolaeth lawn i awdurdodau lleol yn Lloegr dros yr arian y byddant yn ei godi drwy drethi busnes, er mwyn iddynt allu denu busnes a buddsoddiadau i'w hardaloedd lleol.

Bil Gwasanaeth Cenedlaethol gan Ddinasyddion

Bydd y Bil yn creu fframwaith statudol newydd ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Cenedlaethol gan Ddinasyddion ac mae wedi gosod dyletswydd ar ysgolion, colegau, awdurdodau lleol ac Ysgrifenyddion Gwladol perthnasol i hyrwyddo'r gwasanaeth i bobl ifanc a rhieni cymwys.